Nod Gwyfynod yn Cyfrif yw codi ymwybyddiaeth o wyfynod, hybu cofnodi gwyfynod ledled y DU, a sefydlu cynllun cofnodi parhaus ar gyfer y 900+ o rywogaethau o wyfynod mwy eu maint (macro-wyfynod).
Cam cyntaf Gwyfynod yn Cyfrif yw prosiect pedair blynedd (2006-2010) sy'n derbyn cyllid oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri a chyrff eraill. Prosiect partneriaethol ydyw, dan arweiniad sefydliad Gwarchod Glöynnod Byw, lle chwaraeir rhan gan rychwant eang o sefydliadau cenedlaethol a lleol, asiantaethau llywodraethol, busnesau a llu o unigolion sy'n cofnodi gwyfynod.
Mae Gwyfynod yn Cyfrif yn gweithio dros:
- Ddatblygu sylfaen eang o wybodaeth arbenigol trwy recriwtio, hyfforddi ac annog cofnodwyr newydd, yn ogystal â chefnogi'r cofnodwyr gwyfynod a'r grwpiau/rhwydweithiau cofnodi sydd mewn bodolaeth eisoes.
- Hyrwyddo mwy o werthfawrogiad a brwdfrydedd ynghylch gwyfynod ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol, gan gynnwys gwleidyddion, gwneuthurwyr polisi a'r cyfryngau.
- Gweithredu'r Cynllun Cenedlaethol Cofnodi Gwyfynod a sefydlwyd yn ddiweddar a chreu cronfa ddata gynhwysfawr, gywir a hygyrch yn dangos dosbarthiad gwyfynod mwy gwledydd Prydain.
- Cyfrannu at gadwraeth gwyfynod yn y tymor hir trwy ddarparu'r data sydd eu hangen er mwyn i bolisïau a gweithgareddau cadwraethol effeithiol gael eu rhoi mewn grym ar y lefelau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol gan aelodau o'r cyhoedd, cymunedau a sefydliadau cyhoeddus, preifat ac elusennol (e.e. trwy lunio polisi, hysbysu penderfyniadau a chyfrannu at ymwybyddiaeth a gwybodaeth wyddonol ymhlith y cyhoedd).


.jpg)
