Cofnodi gwyfynod yw'r sylfaen sy'n ein galluogi i amddiffyn yr anifeiliaid prydferth a phwysig hyn. Trwy ddim ond nodi pa wyfynod a welwch chi, boed drwy ffenestr y gegin, mewn magl wyfynod yn yr ardd gefn neu ar ben mynydd anghysbell, fe allwch chi wneud cyfraniad gwerthfawr at sicrhau eu dyfodol ar draws gwledydd Prydain.
Mae pobl wedi bod wrthi'n astudio gwyfynod ym Mhrydain ers cannoedd o flynyddoedd, ac mae cofnodi gwyfynod yn fwy poblogaidd heddiw nag erioed. Mae Gwyfynod yn Cyfrif yn cynnig llu o ffyrdd i bobl i gymryd rhan yn y gweithgarwch cyffrous, gwerthfawr, tra phleserus hwn.
Fe all unrhywun helpu – 'does dim rhaid ichi fod yn arbenigwr. Fe gewch wneud gymaint neu cyn lleied ag y dymunwch, gan gofnodi unrhyw wyfyn neu lindysyn mwy ei faint a welwch chi, cyhyd â'ch bod yn gallu ei enwi.
Y prif gynlluniau cofnodi a weithredir gan brosiect Gwyfynod yn Cyfrif yw:
- Y Cynllun Cenedlaethol Cofnodi Gwyfynod – ein cynllun cofnodi pwysicaf oll ar gyfer cofnodi pob rhywogaeth o wyfynod mwy eu maint unrhywle yn y DU, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel.
- Noson Genedlaethol y Gwyfynod – dathliad blynyddol gwyfynod a chofnodi gwyfynod. Cofnodwch yn rhywle newydd, gwahoddwch ffrindiau a'ch teulu, neu chwiliwch am rywogaethau targed.
- Mapio ymfudwyr – arolwg ar-lein syml ar gyfer unrhywun sy'n cael golwg ar y Gwalchwyfyn Hofran rhyfeddol neu'r glöyn byw prydferth hwnnw, y Fantell Dramor, yn ystod 2009.
Dylid anfon cofnodion am wyfynod at eich Cofnodydd Gwyfynod Sirol a dylent gynnwys manylion o'r rhywogaethau a welsoch chi, sawl esiampl a welsoch chi, y dyddiad, y lleoliad, y cyfeirnod grid a'ch manylion cysylltu.


.jpg)
