Transparent Burnet (Dave Green)

Digwyddiadau a hyfforddiant

Breadcrumbs

Mae prosiect Gwyfynod yn Cyfrif yn trefnu rhychwant eang o ddigwyddiadau rhad ac am ddim bob blwyddyn ar draws gwledydd Prydain.

Mae'r rhain yn darparu ar gyfer pob lefel o ran arbenigedd, o ddechreuwyr sy'n darganfod byd gwych gwyfynod am y tro cyntaf i gofnodwyr profiadol sy'n awyddus i ddatblygu ac ehangu eu sgiliau. Daeth mwy na 2,200 o bobl i gymryd rhan mewn 135 o ddigwyddiadau a drefnwyd gan brosiect Gwyfynod yn Cyfrif yn ystod 2007 a 2008.

Mae yna ddau fath gwahanol o ddigwyddiad: digwyddiadau gwyfynod cyhoeddus (sy'n cynnwys gweld gwyfynod a dysgu amdanynt yng nghwmni arbenigwyr lleol) a digwyddiadau hyfforddiant sy'n delio ag amryw destunau yng nghyswllt gwyfynod (y mae llawer ohonynt yn addas ar gyfer dechreuwyr), ac sydd yn aml yn cynnwys sesiynau dysgu dan do yn ogystal â gwaith maes. Mae rhai digwyddiadau'n cymryd lle yn ystod y dydd, eraill gyda'r nos. Gofalwch ddod â thortsh a dillad awyr agored sy'n addas ar gyfer digwyddiadau gyda'r nos.

Cliciwch yma i weld ein rhestr o ddigwyddiadau